Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydyw yn fab y daran, nac yn fab diddanwch. Nid ydyw coron anrhydeddus penllwydni ar ei ben. Ni welir yn ei lygad fywiogrwydd swynol ieuenctyd, ac ni ddengys ei rudd ond y gwywdod afiach, y fynwes ofidus, a'r galon drom. Ond dichon nad yw dalennau hanesyddiaeth Cymru yn cynnwys profion o ymlyniad mwy serchus wrth un gweinidog nag a ddangosir ato gan ei eglwys a'i gynulleidfa. Drwy fisoedd meithion o gystudd, gwyliasant drosto gyda thynerwch rhieni. Wylasant gydag ef pan y gosododd ei gyntaf a'i uniganedig yn y bedd. Cymysgasant eu dagrau a'u gweddiau â'r eiddo yntau am adferiad priod ei fynwes; a phan yn y diwedd y rhwygwyd hi o'i fynwes gan y gelyn diweddaf, pan y newidiwyd ei hwyneb, ac yr anfonwyd hi i ffordd yr holl ddaear, trefnasant gyda'r serch tyneraf er ei gosod hi a'i baban i dreulio eu hun dawel, hirfaith, yn ogof Duw, yr hon a eneiniasant â'u dagrau. A thra y mae ef gyda chalon glwyfus yn crwydro o ardal i ardal, ym min suddo dan bwysau llethedig galar ac afiechyd, esgyn eu gweddiau hwy fel mwgdarth peraidd at orsedd y Nef ddydd ar ol dydd, ac wythnos ar ol wythnos, am ei adferiad.

Gwir nas gellir cymharu ei gyflog â'r eiddo gweinidogion yr Eglwys Wladol, a gweision y llywodraeth; ond pa swm a ellir ei gymharu â'r hyn a enillir drwy lafur caled, a offrymir gyda gweddiau y ffyddloniaid, ac a gysegrir á dagrau teulu y ffydd? Pwy a werthai y fath serch, ac a ymwrthodai â'r lle a feddiennir fel hyn mewn cannoedd o galonnau, am holl wenau y llywodraeth?

Nid yr ysgrifennydd.




VII. CEIDWADAETH LLENYDDOL

Hanner dwsin o gyfansoddiadau da a ddodant amgenach urdd ar ddyn na chylymiad ysnoden las am ei fraich mewn gorsedd. Ni bu dwylaw un cadeirfardd ar ben Samuel Roberts o Lanbrynmair; gwaded y neb a ewyllysio anfarwoldeb mewn ffordd na hoffem ni, nad yw fardd. Gall ein hen ddefodau cenedlaethol fod yn anwyl