Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(1866) Yr oedd teimlad gwladgarol Mr. Richard mor gryf ynddo fel y penderfynnodd wrthweithio y syniad cyfeiliornus hwn am danom fel cenedl, ac, yn 1866, ysgrifennodd gyfres o lythyrau ar sefyllfa gymdeithasol a gwleidyddol y Cymry i'r Morning and Evening Star. Ysgrifenwyd y llythyr cyntaf ym mis Chwefrol, a'r olaf ym mis Mai. Tynasant sylw ar unwaith. Dyfynwyd o honynt i wahanol bapurau, cyfieithwyd hwynt i'r papurau Cymraeg, pasiwyd penderfyniadau gan y gwahanol gyfundebau Cymreig yn diolch i Mr. Richard am danynt, a buont yn agoriad llygad i luaws o Saeson diragfarn, a chodwyd cymeriad y Cymry raddau lawer yn uwch yng ngolwg y deyrnas mewn canlyniad i'w hymddanghosiad. Ymysg y cyfryw yr oedd yr enwog Mr. W. E. Gladstone ei hun. Yn Eisteddfod y Wyddgrug, yn 1873, dygodd Mr. Gladstone y dystiolaeth a ganlyn i'r effaith a gawsant arno ef,—

"Yr wyf," meddai, "yn cyfaddef yn onest i chwi fy mod, amser yn ol, a chyn i mi ymgydnabyddu â'r mater, wedi cyfranogi o'r rhagfarnau oeddent yn ffynnu i fesur yn Lloegr, ac ymysg y Saeson, mewn perthynas i iaith a hanesiaeth henafol y Cymry; ac yr wyf wedi dod yma i ddweud i chwi paham a pha fodd yr wyf wedi newid fy marn. Nid yw ond teg i mi ddweud mai cydwladwr i chwi, Cymro tra rhagorol, sef Mr. Richard, A.S., a