Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BYWYD A GWAITH
Y DIWEDDAR
HENRY RICHARD, A.S.

—————————————

PENNOD I.

Rhagarweiniad—Rhieni Mr Richard—Ei Febyd—Dylanwad crefydd Cymru arno—Yr addysg a gafodd gartref, ac yn ysgol John Evans, Aberystwyth.


O ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn ar fywyd a gwaith y diweddar Mr. Henry Richard, nid ydym yn canfod dim ond yr hyn sydd yn cynhyrchu ynom barch ac edmygedd: parch at ei gymeriad personol dihafal, ac edmygedd oherwydd y gwaith pwysig a gyflawnodd yn ei fywyd. Treuliodd fywyd llafurus, anrhydeddus, a phur; bywyd y gellir cyfeirio ato fel esiampl a symbyliad i bob gŵr ieuanc ar ddechreu ei yrfa yn y byd; a chyflawnodd waith ag sydd a'i bwysigrwydd a'i effeithiau daionus ar y dyfodol mor fawr, nad oes ond ychydig mewn cymhariaeth yn gallu yn awr ei werthfawrogi yn ddyladwy. Fel gweinidog yr efengyl, yr