Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wobr yn y Palas Grisial. Yr ydym yn ei gael hefyd yn nechreu 1872 yn Gadeirydd Cynhadledd fawr o Ymneillduwyr yn y Free Trade Hall, yn Manchester, yn achos Mesur Addysg Mr. Forster, lle yr oedd tua dwy fil o ddirprwywyr o gannoedd o fannau wedi cyfarfod i wrthwynebu rhannau o'r Mesur hwnnw. Penderfynwyd yn y cyfarfod y dylai y cyfrifoldeb o gyfrannu addysg grefyddol orffwys ar ymdrechion gwirfoddol. Yr oedd y diweddar Dr. Dale a Mr. Chamberlain yn siarad yn y cyfarfod o blaid y cynhygiad. Teimlai yr Anghydffurfwyr yn gryf iawn y pryd hwnnw ar y cwestiwn, a chawsant gyflestra i'w ddwyn o flaen y Tŷ ym mis Mawrth, pan gynhygiwyd cyfres o benderfyniadau gan Mr. George Dixon yn condemnio y Mesur Addysg, am ei fod yn caniatau talu arian o'r trethi i ysgolion enwadol, ar y rhai nad oedd gan y trethdalwyr un math o lywodraeth; a bod addysg grefyddol sectol yn cael ei chyfrannu mewn ysgolion yn perthyn i'r Byrddau. Traddododd Mr. Richard araeth rymus, yn ystod y ddadl, yn dangos natur yr addysg enwadol a ddysgid gan y clerigwyr. Addawodd y Weinyddiaeth gymeryd gwrthwynebiadau yr Anghydffurfwyr i ddwys ystyriaeth, ac o ganlyniad, pasiodd y Mesur trwy fwyafrif o 355 yn erbyn 94.