Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

er mwyn ei iechyd ef, a hefyd yn achos y Gymdeithas Heddwch. Cynhaliodd gyfarfodydd mawrion yn Dublin, Limerick, Belfast a mannau ereill. Yr oedd y cyfarfodydd yn rhai dylanwadol a brwdfrydig, a chyflwynid ef yng ngeiriau Mr. McClure, A.S., fel un "hollol adnabyddus yn Nhŷ y Cyffredin, a dadleuydd galluog a hyawdl dros bob mesur dyngarol." Ffurfiwyd pwyllgor i geisio cario allan yr amcan oedd gan Mr. Richard mewn golwg.

Ym mis Rhagfyr, talodd ymweliad â Merthyr Tydfil, pryd y traddododd anerchiad tra effeithiol ar y tugel, masnach y ddiod feddwol, addysg, ac wrth gwrs, y pwnc o Gyflafareddiad. Dywedai nad oedd y cynnwrf a godid gan y dosbarth milwrol am ein perygl, ond ymgais i gael ychwanegiad yn y fyddin a'r llynges. Ffrainc oedd y bwgan blaenorol; ond gan ei bod hi y pryd hwnnw yn gorwedd megys yn glwyfedig ar y llawr, codid cri mai ein perygl oedd oddiwrth Germani. Ie, yr oedd dynion ag oeddent heb fod yng ngwallgofdy Bedlam yn ceisio ein dychrynnu y byddai y wlad honno yn gwneud pont o gychod i groesi y mein-for i oresgyn Lloegr! Cyfeiriai at un lles oedd wedi deilliaw oddiwrth ei araeth yn y Tŷ, mewn perthynas i anfoesoldeb milwyr. Yr oedd y ddeddf hyd hynny, yn gwneud yn amhosibl tadogi plentyn