Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

presennol o gario pethau ymlaen. Yr oedd costau milwrol Ewrob wedi dyblu yn ystod y deng mlynedd ar hugain blaenorol, a byddai yn dyblu yn ystod y 30 mlynedd dyfodol. Yna aeth Mr. Richard ymlaen i ofyn a oedd dim modd osgoi hyn? Oni feddai ein Gwladweinwyr ryw ffordd amgenach na hyn i derfynnu eu hanghydfyddiaethau? Nodai engreifftiau lle yr oedd Cyflafareddiad wedi bod yn effeithiol i osgoi rhyfeloedd. Os dywedid mai mewn pethau bychain yr oeddid wedi cyflafareddu, gofynnai, gyda gwawd, a oedd modd cael pethau llai na'r pethau fuont yn achlysur rhai o'r rhyfeloedd mwyaf gwaedlyd. Dyfynodd eiriau Arglwydd John Russell, yr hwn a ddywedodd unwaith fod holl ryfeloedd y ganrif ddiweddaf yn rhai y gallesid, gyda doethineb, eu hosgoi. Ar ol gwneud cyfeiriad helaeth at yr Adran yng Nghytundeb Paris, ar ol y rhyfel yn y Crimea, a'r Cyflafareddiad yn achos yr Alabama, danghosodd mor bwysig oedd fod pob trefniad i gyflafareddu yn cael ei wneud cyn i'r cweryl godi, a chyn fod teimladau y bobl wedi eu cyffroi, a nododd eiriau pwysfawr Arglwydd Derby, mai yr hyn oedd yn eisieu oedd rhyw lys y gellid cyfleu dadleuon rhwng teyrnasoedd iddo. Ar ol ymdriniaeth fanwl ar natur ei gynhygiad, a'r posiblrwydd o'i gario allan, gofidiai na