Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar eu taith. Cawn hanes prif ddigwyddiadau y daith gan Mr. Miall, ac mewn erthyglau a llythyrau yn yr Herald of Peace; ond ni chaniata gofod i ni fod yn rhy fanwl, ac am hynny dodwn yr hanes, neu grynhodeb o hono, fel y mae yn y cyhoeddiad a nodwyd mewn erthygl olygyddol, wedi ei hysgrifennu—a barnu oddiwrth ei dull anhunanol, yn y trydydd person ganddo ef ei hun. Mae yn amlwg oddiwrth hanes y daith hon fod canlyniad cynhygiad Mr. Richard yn Senedd Prydain wedi peri cyffro mawr ymysg rhai o'r gwŷr mwyaf dylanwadol ar Gyfandir Ewrob, a bod hadau egwyddorion Heddwch wedi eu hau mewn tir da.