Gwirwyd y dudalen hon
gyflawni y gwaith mawr yr oedd ei fywyd mor gysegredig iddo.
Dylid crybwyll hefyd fod holl dôn y Wasg tua'r amser yma fel wedi ei tharo yng nghywair Heddwch, a gallesid tybied fod Gweinyddiaeth Mr. Gladstone am fod yn foddion i ddwyn tangnefedd ar y ddaear. Yr oedd erchyllderau rhyfel wedi eu portreadu o flaen llygad y byd yn y rhyfel ofnadwy rhwng Ffrainc a Germani. Ac yn arbennig yr oedd yr anghydfod a ofnid a fuasai yn terfynnu mewn rhyfel rhwng Lloegr a'r Unol Daleithiau, yn achos yr Alabama, wedi ei benderfynnu yn heddychol trwy Gyflafareddiad.