Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/297

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pierce, Dr. John Roberts a Mr. J. Bryn Roberts, A.S. Cyrhaeddwyd Bangor tua 3 o'r gloch. Nid oedd dim ar yr arch ond

"HENRY RICHARD,

GANWYD EBRILL 3, 1812.

BU FARW AWST 20, 1888."

Cludwyd ei gorff i'w dŷ, yn Llundain, 22, Bolton Gardens, a chladdwyd ef ym mynwent Abney Park, ar ddydd Gwener, y 24ain, lle y dodwyd ef, ar ei gais ei hun, meddir, wrth ochr bedd ei hen weinidog, Dr. Raleigh. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus. Yr oedd yn bresennol Weinidogion yr Efengyl, Aelodau Seneddol, Cynrychiolwyr yr Undeb Cynulleidfaol, y Gymdeithas Heddwch, a lluaws mawr o Gymdeithasau ereill, y rhai y bu Mr. Richard yn eu gwasanaethu yn ystod ei fywyd llafurus.

Cyflawnwyd y gwasanaeth ar yr achlysur yng Nghapel Abney, gan y Parch. Edward White a'r Parch. Dr. Dale. Yr oedd anerchiad Dr. Dale, hen gyfaill Mr. Richard, yn deilwng o hono ei hun ac o'r achlysur. Wrth gyfeirio at y ffaith mai yng Nghymru y bu farw, dywedai mai gweddus oedd iddo farw yno, oblegid carai Gymru yn angherddol. Yn ystod holl lafur a chyffroadau a dadleuon ei fywyd cyhoeddus maith, yr oedd bob amser yn teimlo dylanwad y