canlyniad. Ar y 4ydd o fis Medi, sef rhyw ddwy wythnos wedi marwolaeth Mr. Richard, aeth Mr. Gladstone i Eisteddfod Gwrecsam, lle y traddododd araeth, yng nghwrs yr hon y cyfeiriodd at Mr. Richard yn y geiriau canlynol,—
"Yn awr, y mae hwn yn ddydd o adgofion, ac wedi i mi siarad fel hyn am y Cymry fel cenedl, yr wyf yn cael fy adgofio i edrych i fyny at yr arysgrifen yna ar gyfran o'r muriau, a sylwi ar yr enw 'Henry Richard,' enw nas gellir cael ei well fel arwyddlun o Gymru, Cefais yr anrhydedd o'i adwaen am yr ugain mlynedd diweddaf, os nad ychwaneg, ac y mae bob amser wedi bod yn dda gennyf ddweud fy mod yn edrych arno ef mewn perthynas i bobl Cymru, o ran ymddygiad, cymeriad, cynheddfau a gobeithion, fel athraw ac arweinydd. Yr wyf mewn dyled iddo am lawer a ddysgais ynghylch Cymru, ac y mae yn dda gennyf bob amser gydnabod y ddyled honno. Ond, foneddigion, y mae ganddo hawliau eangach arnoch chwi. Mae ganddo yr hawl arnoch o fod wedi arddangos i'r byd, gynllun o gymeriad nad all uurhyw wlad lai nag edrych arno gyda chydymdeimlad a hyfrydwch. Gwelais ef yn y Senedd yn amddiffyn syniadau pendant, yn amddiffyn rhai syniadau, fe allai ymysg y rhai goreu a goleddai, er engraifft, gyda golwg ar Heddwch, yn y rhai nad oedd ganddo lawer yn cydymdeimlo âg ef neu yn ei ddilyn. Gwelais ef bob amser yn cyfuno y dewrder a'r penderfyniad mwyaf di-ildio wrth ddadleu ei egwyddorion a'i syniadau gyda'r tynerwch, yr addfwynder, a'r cydymdeimlad mwyaf at y rhai a wahaniaethent oddiwrtho. Y ffaith yw, foneddigesau a boneddigion, er nad wyf yn dymuno dwyn i mewn yma, yn afreidiol neu yn ymyrgar, ystyriaethau mor