Nis gallai Duw achub y pechadur, pe yn edifarhau, heb iawn, gan fod cysylltiad rhwng ei drosedd â'r llywodraeth: ond, pe yn edifarhau, o hono ei hun, gallai Duw, o ran ei gysylltiad â'r llywodraeth, ei achub o'r goreu heb etholedigaeth. Credai y Calfiniaid diweddar, ynte, a chredant eto, fod yr iawn yn hanfodol angenrheidiol er iachawdwriaeth, neu gadwedigaeth, mewn ystyr bur wahanol i'r hyn y gellir dyweyd fod etholedigaeth felly. Ac yn ol eu golygiadau hwy, gan fod yr iawn yr hyn ydyw, y mae pob mantais i'r anetholedig am ei fywyd, os myn.
Yn y dyddiau cynhyrfus hyny ar athrawiaethau, llawer ymosodiad a wnaed ar Shadrach a'i olygiadau, gan bob math o ddynion. Yn gyffredin, modd bynag, fel yr awgrymir ganddo yn rhagymadrodd Rhosyn Saron, nid oedd yn hoff o ymddadleu. Pan fyddai hwn ac arall, gan hyny, yn ymosod arno, taflai yntau y naill goes dros y llall, tra yn eistedd wrth y tân, neu rywle arall, ac wedi i'r wefl laes' a'i nodweddai ymsiglo am dipyn, torai allan i ateb—"Dywedwch a fynoch chwi, Israel a glyw." Ac yn ol pob golygiad, yr oedd yn bur sicr o fod yn gywir.—Yroedd yn gywir yn ol golygiadau Shadrach a'i gyfeillion; oblegyd, fel y barnent hwy, ni wrandawai neb ar wahoddiadau yr efengyl ond yr Israel etholedig. Ac yr oedd hyn yn wir, hefyd, yn ol barn yr Arminiaid, oblegyd, fel y credant hwythau, bydd pob un a glywo yn Israeliad etholedig. Nid oedd Shadrach yn gweled llai, feddyliem, nad oedd y dywediad uchod o'i eiddo yn derfynol ar bob dadl.
Amcanai, fel awdwr, at ddefnyddioldeb a symledd. Yr hyn a bregethasid ganddo yn flaenorol, oedd yr hyn, gan mwyaf, a argraffai. Y mae hyny yn cyfrif dros grefyddoldeb ac unrhywiaeth ei gyfansoddiadau. Diau fod hyn, hefyd, yn cyfrif dros fod rhai o honynt mor fasw. Nid bob amser y mae arddull yr areithfa yn gymhwys i'r wasg. Ac yr ydym yn meddwl fod y llyfrau a gyfansoddwyd ganddo yn unswydd i'r wasg, megys, Drych y Gwrthgiliwr, Rhosyn Saron, &c., yn rhagori ar y lleill. Yn mhob un o honynt, fodd bynag, y mae ei ieithwedd a'i gystrawen yn Gymreig a phur. Yr oedd ei gyfansoddiadau, yn gyffredin, yn ystwyth a darllenadwy iawn, ar waethaf ei gyfeiriadau ysgrythyrol aml; ac er na fynem awgrymu ei fod yn Gymreigydd galluog, eto rhaid ini addef mai nid bob dydd