Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar enwau y rhai fuont yn enwog iawn yn eu dydd a'u cenedlaaeth ; ond o'r ddau, gwell genym y ffolineb hwn na'r un cyferbyniol o gyfyngu ein dewisiad i'r ychydig enwau sydd mewn arferiad cyffredin. Os rhoddir enw o gwbl, rhodder ef i ddynodi, ac nid i arddel perthynas â rhyw un sydd yn fyw, neu, fe allai, sydd wedi marw.

Y mae yn sicr genym nas gellir beio yn gyfiawn ar enw Azariah Shadrach ar y cyfrif hwn. Y mae hwn yn ddigon hynod i ddynodí: ac heblaw hyny, yr oedd y person a'i dygai mor hynod a'i enw. Nid bob dydd y cyfarfyddid â'i fath ; ac yr oedd hyny yn ei gwneud yn hawddach iddo fod yn adnabyddus. Er hyny, fel na byddai perygl i neb ei gamgymeryd, gofalai gwrthddrych ein cofiant ysgrifenu ei enw yn llawn "Azariah Shadrach, gweinidog yr Efengyl yn Nhalybont," ac wedi hyny, yn "Aberystwyth."

Gan fod enw ein gwron mor adnabyddus, meddyliasom y gallasem gael llawer mwy i'w ddywedyd am dano nag sydd genym, yn neillduol gan ein bod yn byw heb fod yn nepell o faes olaf ei lafur ; ond rhaid i ni gyfaddef i ni gael ein siomi. Er nad oes llawer o flynyddoedd er pan fu farw, eto, nid oes ond ychydig yn awr yn fyw yn cofio helyntion boreuol ei fywyd. Ac yn mysg y rhai hyny, nid pob un sydd yn barod i fyned i'r drafferth i roddi y cymhorth gofynol i gadw ei gymeriad, yn gystal a'i enw, mewn coffa. Y mae gormod o ddifaterwch o lawer yn ein plith am goffadwriaeth ein henwogion ; a chan fod coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig, y mae yn ddiau ein bod yn golledwyr yn gystal ag yn feius, wrth beidio ymdrechu sicrhau y bendigedigrwydd hwn. Yn fuan, fuan, bydd cymeriadau llawer o gedyrn yr oes ddiweddaf -dynion nad oedd y byd yn deilwng o honynt, wedi myned i annghofrwydd. Ac oni bai fod Shadrach ei hun wedi ysgrifenu ychydig o hanes ei fywyd ar ddiwedd ei "Gerbyd o Goed Libanus," ni fyddai genym ond ychydig i'w ddweyd yn hanesyddol am dano. Rhaid i ni hefyd ddychwelyd ein diolch cynhesaf i Mr. Robert Jones (Adda Fras,) Aberystwyth am yr hyn a wnaeth yntau i goffadwriaeth y cyfiawn hwn. Oni bai Mr. Jones fel ysgogydd, cawsai corff Azariah Shadrach orwedd yn dawel, heb gymaint a chareg i nodi