Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lad hwn yn dra effeithiol. "O! (ebe fe) y fath olwg wyllt a chellweirus oedd ar y bobl! Yr oedd hi fel ffair fawr, ac yr oedd y crwth a'r delyn yn chwareu, a minau yn pregethu allan yn nghanol y dorf wageddus." Dyna, ddarllenydd, ddesgrifiad o'r gynulleidfa oedd yn ei wrando y prydnawn Sabboth hwn; ond beth am deimladau y pregethwr? "Yr oedd arnaf beth ofn (meddai) y buaswn yn cael fy lladd ganddynt; ond drwy ddaioni yr Arglwydd, mi gefais fy niogelu." Yr oedd yn ymladdfa law-law, a`daeth y pregethwr allan yn fuddugoliaethus, er nad oedd ond un yn erbyn y lluaws. "Ond yr oedd Duw gydag ef," ac mewn canlyniad, cafodd y díafol, ys dywed Siencyn Penhydd, ei orchfygu ar ei dir ei hun. Yn mhen blynyddau wedi hyn, clywodd ddyn yn dweyd, iddo ef gael ei ddychwelyd at yr Arglwydd yr oedfa ryfedd hon; a phan wawrio y dydd mawr, y mae yn bosibl y caiff y pregethwr fwy o achos i lawenychu am yr ymosodiad hwn a wnaeth ar fyddin ei wrthwynebwr.

Dyma gipolwg ar fywyd Shadrach tra yn aros yn Nhrefriw, ac i wneud cyfiawnder âg ef, rhaid dal mewn cof ei fod yn gwneud yr holl ymdrechion hyn ar ei draed ei hun. Nid oedd llawer o geffylau benthyg i'w cael yr amser hwnw i bregethwyr: ac nid oedd yn bosibl iddo, o bum punt yn y flwyddyn, allu fforddio i gael ceffyl iddo ei hun. Ond os bydd gwir angen am beth, y mae Rhagluniaeth yn sicr o ofalu am dano. Ac felly, pan glywodd y gŵr da a haelionus hwnw, Mr. Jones, o Gaer, ei fod yn teithio cymaint ar ei draed, teimlodd ar ei galon i roddi ceffyl bychan a chyfrwy hefyd yn anrheg iddo.

Os oedd Shadrach, ynte, mor ymdrechgar fel gŵr traed, beth fydd ef yn awr fel marchog? Yr oedd eto rai ardaloedd heb eu meddianu: a thra yr oeddynt o fewn cyrhaedd gŵr a cheffyl, nis gallai eu hesgeuluso. Nid oedd gan yr Annibynwyr yr un lle i bregethu ynddo yn ardaloedd eang Pentrefoelas a Rhyd- lydan; ac yr oedd y trigolion, yn gyffredin, yn dywyll, a rhai o honynt yn erlidgar. Teimlai Shadrach anesmwythder wrth feddwl am y rhai hyn, a phenderfynodd wneud ymdrech er eu meddianu. Wedi tipyn o lafur blaenorol, cafodd genad i bregethu yn ochr tŷ bychan, o'r enw Ty'nygors, yn ngodrau y mynydd sydd uwchlaw Rhydlydan, yn agos i ffordd y Bala.