yn pregethu yn Rhydlydan, daeth "pendefig" heibio, ebe Shadrach;—ond dywed Mr. Morgan yn ei Hanes Ymneillduaeth, yn ddifloesgni, mai Mr. Humphreys, o Rydlydan, ydoedd, yr hwn oedd yn offeiriad ac ynad heddwch;—gan waeddi yn awdurdodol arno ddyfod allan ato ef. Aeth yntau ato yn ol ei gais, â'i drwydded bregethu yn ei law; "Oblegyd (ebe Shadrach) nid oeddwn yn arfer myned i unman yr amser hwnw heb fy nhrwydded genyf." Ffaith syml yw hona, ddarllenydd, ond y mae yn ddrych lled gywir i ni ganfod cymeriad yr oes ynddo. Mor fuan ag y daeth Shadrach yn ddigon agos at y "pendefig" hwn, cipiodd y drwydded o'i law, a gorfu ar Shadrach druan ei ddilyn am tua milldir o ffordd, yn swn bygythion yr adyn, cyn ei chael yn ol ganddo; a gorfu arno yn y diwedd gyfeirio ei feddwl "pendefigaidd" at gyfraith y wlad cyn ei chael o gwbl. Gallem gasglu na fyddai cyfeirio ei feddwl at gyfraith Crist o un dyben. Dywed Mr. Morgan i'r dyn erlidgar hwn farw dan arwyddion amlwg o farn Duw. Y mae Duw a farn ar y ddaear. Rhyw dro arall, wedi iddo fod yn pregethu yn Rhydlydan, cyfarfyddodd ef a'i gyfeillion wrth ddychwelyd, yn agos i Bentrefoelas, â "phendefig," ebe fe, eto, yn dyfod i'w herbyn o'r gwasanaeth prydnawnol, a golwg beryglus arno; a chan nad beth fu y "pendefig" hwn yn wneud yn y gwasanaeth prydnawnol cyn hyny, dywed Shadrach ei fod yn ei regu ef yn arswydus am ei fod yn dyfod i bregethu i'w ardal ef. Yr oedd gwraig clochydd Pentrefoelas wedi bod yn gwrando ar Shadrach; ac oblegyd, feddyliem, fod cysylltiad agos rhwng clochyddiaeth â'r pendefigion hyny oeddynt yn dyfod ar lwybr Shadrach mor aml, rhedodd o'r neilldu i ymguddio. Ond ar waethaf y gwrthwynebwyr, daliodd ef ei dir; a chafodd y pleser o sefydlu eglwys yno; a bu gwraig y clochydd hwn yn gymwynasgar iawn i'r achos yn ei wendid cyntaf. Dywed Shadrach wrthym mai hi roddodd y gymwynas gyntaf i'r achos Annibynol yn yr ardal, a phwys o ganwyllau oedd hyny; ac ymddengys iddi barhau i roddi y gymwynas hon yn awr ac yn y man tra fu hi byw. Yr oedd tywyllwch yn gordoi y bobl pan sefydlwyd yr achos yn y lle. Pan yn corffori yr eglwys yno, daliai Shadrach y Beibl yn ei law, a gofynai iddynt a oeddynt yn penderfynu ei gymeryd yn rheol iddynt? Atebent hwythau
Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/32
Gwedd