Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn fanwl gyda'r ffeithiau uchod, fel y gellid cael cyfleusdra i ganfod ei galedi, ac mewn canlyniad ei hunanymwadiad, yn well. Thomas Carlyle, onide, sydd yn dweyd fod yn rhaid i'r dosbarth blaenaf o ddiwygwyr cymdeithasol debygoli i'r milwyr blaenaf yn y fyddin Rwsiaidd, sef, gorwedd yn y ffos, fel y gallo y rhai fyddo yn dyfod ar eu hol gael cerdded drostynt. Onid fel hyny, i raddau helaeth, y mae wedi bod gyda gweinidogion ffyddlawn yr oes ddiweddaf? Bendith fyddo ar eu henwau a'u coffadwriaeth! a throsglwydder gwybodaeth o'u hymdrechion, eu caledí, a'u hunanymwadiad, fel cymunrodd werthfawr i'r oesau dyfodol, fel y byddont fel symbylau i'w cyffroi i berffeithio y gwaith a ddechreuwyd yn wyneb cynifer o anfanteision.

Ugeiniau lawer o flynyddoedd yn ol, yr oedd cryn bwysigrwydd yn perthyn i ardaloedd Talybont, am fod yno weithiau plwm pwysig yn cael eu cario yn mlaen. Dywedwyd wrthym mai yn y gweithiau hyn y darfu i Syr Hugh Myddleton gasglų y cyfoeth a'i galluogodd i orphen y New River, er dyfrhau dinas Llundain. Ac erbyn heddyw y mae y cymydogaethau hyn yn enwocach nag erioed, ar gyfrif eu cyfoeth a'u gweithiau mwnawl. Ond golwg lled ddigalon oedd ar bethau oddeutu yr amser yr ymsefydlodd Shadrach yn y lle. Yn lle nifer liosog o dai golygus, fel sydd yno heddyw, nid oedd yn y pentref y pryd hwnw ond ychydig o dai llwydion a gwael. Ac ystyrid yr hen dŷ pridd dilun ddarfu i Shadrach adeiladu iddo ei hun wedi ei ddyfodiad yno, a'r hwn ddichon i'r darllenydd ei weled eto yn ymyl yr ysgoldy Brytanaidd, yn adeilad godidog. Ac yr oedd sefyllfa grefyddol y cymydogaethau hyn yn cyfateb yn lled dda i'w sefyllfa gymdeithasol. Nid oedd ond oddeutu tair blynedd wedi myned heibio er pan ddechreuwyd pregethu yno. A'r hybarch a'r hynod Rhys Davies, o Saron, yr hwn oedd y pryd hwnw yn cadw ysgol yn Mhenal, oedd y pregethwr cyntaf. Cymerwyd meddiant o'r maes yn fuan gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd; ond gan fod ei esgobaeth eisoes mor eang, nis gallai, wrth reswm, wneud cyfiawnder â'r gymydogaeth hon. Oddeutu yr amser hwn nid oedd ond tri o weinidogion gan yr Annibynwyr yn sir Aberteifi i gyd: a rhanent hi cydrhyngddynt. Gofalai y Parch. B. Evans,