Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pob un o honynt yn cael ei lurgunio gan draddodiad annaturiol ac annyben? A chyfrif fod pethau ereill yn gyfartal, nid ydyw hyn ond yr effeithiau sydd yn canlyn yn naturiol o fod yr areithfa yn gwasgu gormod ar y lyfrgell yn y naill achos, neu fod y lyfrgell yn gwasgu gormod ar yr areithfa yn y llall. Os ydyw rhai yn rhy anaml yn eu llyfrgell, y mae yn ddiamheuol genym fod ereill ynddynt yn rhy aml ac yn rhy hir. Er meithrin y meddwl y maent yn lladd y corff; ac y mae corff iach a chryf o bwys annhraethol i bregethwr. Er gwneud pregethwr effeithiol, y mae yn ofynol nid yn unig fod gan ddyn yr hyn a ddywedo, ond hefyd fod ganddo fedr a gallu corfforol i'w ddywedyd. Ac yn awr, wedi bod yn edrych ar Shadrach yn ei ddiwydrwydd a'i ymdrechion diarbed i gyflawni rhanau cyhoeddus ei weinidogaeth, y mae yn dra thebyg fod y darllenydd yn barod i gasglu ei fod yn dra dyeithr i'w lyfrgell. A phe meddyliem, heblaw hyn, ei fod yn un o bregethwyr poblogaidd ei ddydd, ac fel y cyfryw yn cael ei alw yn aml i gyfarfodydd mawrion, yn agos a phell, byddai casgliad felly yn ymddangos yn fwy naturiol fyth. Mae yn dda genym allu dyweyd er hyny, mai nid dyeithr i'w lyfrgell a'i lyfrau ydoedd ef. Mae yr holl lyfrau a gyhoeddwyd ganddo, at y rhai y bwriadwn alw sylw y darllenydd eto, yn ddigon i brofi hyny. Ac er yr holl lafur cyhoeddus y darfu i ni alw sylw ato eisoes, eto, dywed ef ei hun wrthym ei fod wedi darllen llawer yr holl flynyddau y bu yn Nhalybont. Dywed wrthym ei fod" lawr weithiau drwy y nos, yn darllen, yn gweddio, ac yn ysgrifenu;" ac ychwanega ei "fod yn cael hyfrydwch mawr yn y gwaith." A chan ein bod yn credu fod cymeriad Shadrach fel myfyriwr wedi cael ei ddiystyru i raddau, a hyny yn hollol afresymol a diraid, ni a roddwn gerbron y darllenydd rês o'r llyfrau a ddarllenwyd fwyaf ganddo. Dywed wrthym mai y llyfrau cyntaf fuont yn gynorthwy iddo ef ddeall ychydig o'r Beibl oeddynt esboniadau Mathew Pool, Henry, Scot, Gill, Doddridge, Guise, Manton, a Durham, ac esboniad "rhagorol" Dr. Lewis ar y Testament Newydd. Bu Cyrff Duwinyddiaeth Brown, Lewis, Gill, Dwight, Watson, Leigh, Usher, a Witsius, yn ddefnyddiol iawn iddo. Darllenodd lawer hefyd o waith Flavel, Goodwin, Esgob Hall, Hervey, Blair, Witherspoon,