Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y llyfr hwn ei fod yn cynwys rhyw athrawiaethau hynod, gan fod yr awdwr yn ein hysbysu ei fod yn ymdrin âg "amryw destynau ysgrythyrol, a ddangosant fod yr iachawdwriaeth fawr dragywyddol yn ddiamodol." Na thybier, er hyny, nad oedd yr awdwr yn uniongred gyda golwg ar amod yr iachawdwriaeth. Rhaid i'r darllenydd ddal mewn cof fod y gair iachawdwriaeth yn cael ei ddefnyddio yn aml mewn dau ystyr gwahanol:-weithiau i osod allan gynllun Duw i achub mewn iawn; a phrydiau ereill achubiaeth neu gadwedigaeth weithredol y pechadur crediniol. Nis gall fod amheuaeth gan neb nad yw iachawdwriaeth yn yr ystyr flaenaf—yn yr ystyr o drefn achubol-yn gwbl ddiamodol. Nis gall neb, pwy bynag fyddont, wadu na ddygodd Duw y drefn achubol—YR IACHAWDWRIAETH-i fodolaeth yn gwbl annibynol ar amodau o du y dyn. Nid rhoddi ei Fab i farw wnaeth Duw os na wnai y byd fod yn gas wrtho, neu y cyffelyb: ond Efe a'i traddododd Ef drosom ni oll, ar waethaf ein hymddygiadau pechadurus. Y mae y bobl fwyaf Arminaidd, yn ddiau, yn cydweled â'r rhai mwyaf Calfinaidd ar y pwnc hwn. Ond os cymerwn y gair iachawdwriaeth yn yr ystyr arall yn yr ystyr o gadwedigaeth weithredol, yna, y mae yn ddiau ei bod yn amodol.-Hyny yw, nis gall neb, mewn oed a synwyr, gael eu cadw heb gredu. Y mae pawb, feddyliem, yn cydweled ar hyn eto,-y Calfiniaid yn gystal a'r Arminiaid. Gwir fod y Calfiniaid yn credu etholedigaeth ddiamodol, ond nid cadwedigaeth felly. Yn ol eu barn hwy, y mae etholedigaeth, nid yn cadw dyn ei hun, ond yn ei ddwyn i afael cadwedigaeth, drwy ei ddwyn i gredu yn gyntaf. Y mae credu yn amod cadwedigaeth, yn ol eu barn hwy, hyd yn nod i'r etholedigion. Y maent, felly, yn gosod cymaint o bwys ar amod cadwedigaeth â neb fodd bynag: a phe bai pawb yn dal hyn mewn cof, ni fyddai cymaint o ymddadleu o bosibl ag y sydd. Ymddengys i ni mai dyma hefyd oedd golygiadau Shadrach. Byddai yntau, hefyd, yn barod i ddweyd mai un peth yw fod etholedigaeth yn ddiamodol, ond mai peth arall, gwahanol iawn, yw fod iachawdwriaeth, yn yr ystyr o gadwedigaeth, felly. Credai Shadrach y blaenaf, ond ni chredai yr olaf; ac y mae yn amlwg oddiwrth deitl y llyfr hwn fod yr awdwr yn defnyddio y gair " diamodol"