Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwn yn llythyrenol—i gulhau, ac mewn canlyniad, i ddyfnhau yr afon, i sychu Cors Fochno, o enwogrwydd hanesyddol, ac i godi cloddiau priodol rhag gorlifiad y môr. Gyda golwg ar y "llongau," yn y chweched a'r seithfed pennill, y mae pawb yn gwybod fod Aberdyfi eisoes yn borthladd pwysig; ac y mae arwyddion y daw yn bwysicach fyth, pan unir ef â chanol y wlad drwy y railways sydd yn awr ar droed. Gyda golwg ar y trysorau y rhagfynegir am danynt yn yr wythfed, nawfed, a'r degfed pennill, digon yw dyweyd fod y Dylifau eisoes yn glodfawr gyda golwg ar ei blwm, ei arian, a'i gopr. Un o'i berchenogion yw John Bright, Ysw., A.S.; ac y mae godrëon Pumlumon yn frith gan weithiau plwm. Cafwyd copr hefyd yn nghylch y broffwydoliaeth hon, heblaw ar y Dylifau. Am drysor hynod Cadair Idris, yn y deuddegfed pennill, y mae y cyhoedd yn gwybod eisoes, gan fod cyflawnder o fwn haiarn rhagorol wedi ei ddarganfod yno yn ddiweddar; ac y mae y cyhoedd yn gwybod yn dda am yr aur a godir yn y cymydogaethau cyfagos; ac yr ydys yn awr wrth y gorchwyl o wneud tramway i gymydogaeth y Gadair o un tu, a railway o'r tu arall; a bydd y naill a'r llall yn gyfleus i gario ei thrysorau i afon Dyfi. Erbyn hyn y mae survey wedi cael ei gwneud i droi y rhan fwyaf o'r tramway uchod yn rheilffordd, i redeg o Fachynlleth drwy Goris ac Aberllefenni, heibio i gymydogaeth Cadair Idris, lle y mae y ceryg haiarn, i gyfarfod â llinell y Bala a Dolgellau.—Bwriedir cael act yr eisteddiad hwn (1863). Am y trysorau mawrion y sonir am danynt o'r pedwerydd pennill ar ddeg hyd y pedwerydd ar bymtheg, gellir dyweyd fod trigolion y gymydogaeth yn gwybod erbyn hyn am lawer o honynt, er eu cysur a'u gorfoledd; a gobeithia pobl Pennal, ar sail dda, fod yr olaf yn wir am eu mynyddau anial hwythau. Am "lechau Coris," nid oes dim yn eisieu ond dyweyd fod gwerth miloedd lawer o honynt yn cael eu cludo oddiyno ac o Aberllefenni bob blwyddyn, "i lan Dyfi mewn llawenydd." Am drefydd ac eglwysi pennill yr unfed ar ugain, ni a adawn i bobl yr oesoedd sydd i ddyfod i siarad. Ond y mae y pennill nesaf-yr ail ar ugain, yn teilyngu sylw neillduol. Hysbysir ni ynddo y bydd pont ha'rn" dros afon Dyfi, yn arwain "i'r dref hardd fydd Car Foelynys." Yn awr, y mae y Foelynys yn sir Aberteifi,