Ond i ddychwelyd. Aeth Shadrach a'i gyfaill allan, a dygasant i mewn ddwy neu dair o geryg golygus, a gwnaethant safle cymhwys ar waelod y pulpud; ac yna dychwelasant i'w lletty yn llawen. Daeth amser yr oedfa, a llanwyd y tŷ o wrandawyr; ond och! pan esgynodd y pregethwyr i'r areithfa, mawr oedd eu gofid wrth ganfod fod rhyw law angharedig wedi tynu eu hadeilad i lawr, a chario y defnyddiau i ffwrdd; a mwy fyth oedd eu profedigaeth, pan glywsant un o'r hen frodyr yn hysbysu y gynulleidfa, fod rhyw ddyhiryn neu ddyhirod wedi bod yn euog o'r fath waith halogedig a thaflu ceryg mawrion i'r pulpud; a dymunai ar bawb wneud eu goreu i gael allan y troseddwr! Dywedir yn y darlun uchod, hefyd, fod gan Shadrach "lais grymusawl;" ac fel enghraifft o hyny, gallwn nodi fod Mr. Morgan, yn Hanes Ymneillduaeth, yn dyweyd ei fod unwaith yn pregethu mewn lle o'r enw Tynewydd, yn Sir Gaernarfon. Pan yn pregethu, dygwyddodd fod morwyn i offeiriad erlidgar yn y gymydogaeth yn sefyll ar fryn, oddeutu dwy filldir o'r lle; clywai y ferch hon ef, hyd yn nod o'r pellder hwn, a deallodd amryw ranau o'i bregeth. Dychwelodd y forwyn i'r tŷ, ac adroddodd y rhanau a glywsai o'r bregeth wrth ei meistres. Er ei llawenydd, atebwyd hi gan ei meistres, "Ni rwystraf fi mo honoch chwi byth yn rhagor; ond gochelwch rhag i'ch meistr wybod eich bod yn myned yno." Pwy a ddywed nad oes daioni mewn gwaeddi, ynte!
Cawn weled ei gymeriad moesol, fel dyn a Christion, yn ei gymeriad fel gweinidog. Er nad yw pob dyn yn weinidog, eto gall gweinidogion ddyweyd, "Dynion ydym ninau hefyd;" ac fel y byddo'r dyn, fel hyny hefyd y bydd y gweinidog wneir o hono. Llawrwaith i gymeriad y gweinidog yw ei gymeriad fel dyn. Ac oblegyd hyn nis gallwch ddysgwyl gweinidog da os na fydd genych ond dyn gwael. Os llawrwaith pwdr fydd genych, nis gallwch ddysgwyl i'r goruwchadeilad fod yn gryf. Nid yw y "marwol" yn y dyn yn cael ei lyncu yn yr hyn sydd "fywyd" yn y gweinidog. Na, gellir ei chymeryd yn seilwir, fod y dyn yn dangos ei hun bob amser yn y gweinidog, gan nad pa un ai drwg ynte da fyddo. Ac y mae o bwys dirfawr i'r eglwysi gofio hyn pan yn cymhell dynion ieuainc i'r weinidogaeth. Dalier mewn cof yn wastadol, nas gellir gwneud dim o ddyn o feddwl