plith. Ond hyn a allaf ddywedyd gyda gradd o hyder gobeithiol, credu yr wyf fod y cwmwl yn aros uwch ben y gwersyll hyd yn hyn, ac na ymadawiff oddiyno nes bo'r udgorn yn swnio i beri i'r gwersylloedd gychwyn yn mlaen, ac ymladd eu ffordd tua thir eu gwlad, ag arch Duw Israel yn cael ei dwyn idd ei bro ei hun, i dir Israel, i fynydd Sion, dinas y Duw byw, gyda llawenydd a gorfoledd, cynghanedd a dawnsio. Tegwch bro a llawenydd yr holl ddaear yw mynydd Sion-Eglwys Dduw. Duw a adwaenir yn mhalasau hon yn amddiffynfa.
Er fy mod wedi fy ymddifadu o'r fraint o fod yn eich plith, tebygwn fod fy enaid a'm calon yn chwennych anadlu gyda chwi am lwyddiant yr achos yn eich plith. O frodyr anwyl, gweddiwch drosof finau. Byddwch ffyddlon ar ychydig hyd y diwedd, fe'ch gosodir ar lawer. Gweithiwch, llafuriwch, cloddiwch at y Graig, nes derbyn o'i thrysorau. Os palla'r manna o'r nefoedd, cawn hen yd y wlad yn gynnaliaeth, nes myned adref i'r etifeddiaeth anniflanedig, na syflir un o'i hoelion yn dragywydd.
Dymunaf arnoch o galon, ac o angenrheidrwydd, i ddodi at y blaenoriaid a stewardiaid societies yn ein sir a'r siroedd, i ddeffro gyda'r gwaith, trafaelu a chynniwair trwy'r pyrth, parotoi ffordd y bobl, palmantu'r brif-ffordd a'i digaregu, fel y galler codi'r faner i'r bobloedd, Is. lxii. 10.
Tebygwn fy mod yn clywed swn tyrfa yn dyfod—rhaid i'r addewidion gael eu cyflawni, y bydd mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei sicrhau yn mhen y mynyddoedd, a'r holl genhedloedd a ddylifant ato. O na oleuai yr Arglwydd ni yn fwy, nes byddem yn prisio ac yn gwerthfawrogi ein braint o fod gydag