Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adwys, a Saul, brenin Israel, ar ei orsedd. . . . Goddefwch hefyd, fy mechgyn hoff, i'ch hanwyl dad i gymhell arnoch yr ystyriaeth fanylaf at onestrwydd, oblegid, fel y dywed y ddiareb, Honesty is the best policy, ac y mae awdurdod uwch na hyny wedi gorchymyn i ni ddarpar pethau onest yn ngolwg pob dyn;' a thrachefn, Y rhai ydym yn rhagddarparu, pethau onest, nid yn unig yn ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yn ngolwg dynion;' a thrachefn, Pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest, pa bethau bynag sydd gyfiawn, meddyliwch am y pethau hyn.' Yma gallaf lefain, Fel hyn y dywed yr Arglwydd;' a bydded i holl feibion dynion dalu sylw i'r hyn y mae ef yn ei orchymyn, oblegid nid oes dim esgusodi neu ochel i fod yma. Fy anwyl blant, cedwch yn wastad o flaen eich meddwl, mae eich trysor daearol gwerthfawrocaf, yn nesaf at eich bywyd, yw eich cymeriad. Tra y cedwir ef yn gyfan, yn glir, a dilychwyniad, y mae yn debyg i ddernyn o wydr, yn hynod ddefnyddiol ac addurniadol, ond, wedi unwaith ei dori, y mae wedi ei golli yn anfeddyginiaethol; nid oes dim modd ei gyweirio—gellir ei adael am ryw ychydig amser yn ei le, a'i ddiogelu yno, trwy sythdoes (putty) a moddion ereill, ond y diwedd fydd ei gymeryd i lawr a'i daflu ymaith fel peth diddefnydd a diwerth; felly dyn wedi colli ei gymeriad, fel gwr onest, gellir cyd-ddyoddef âg ef am ryw amser, ond y diwedd fydd ei wrthod, a chau y drws yn ei erbyn.

Ydwyf, fy mechgyn anwyl,

Eich tad pryderus a gofalus,

EBENEZER RICHARD.