Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BYWYD

Y

PARCH. EBENEZER RICHARD.

PEN. I.

Genedigaeth Mr. Richard—Ei rieni, a'u cymeriad—Ei febyd—Tirfa y Ffrancod yn Pencaer—Cân Mr. R. ar yr achlysur—Ei symudiad Bryn-henllan—Ei argyhoeddiad dygn, &c.

EBENEZER RICHARD, gwrthddrych y cofiant hwn, ydoedd fab hynaf Henry Richard[1] o ei ail wraig Hannah. Ganwyd ef ar y 5ed o Ragfyr, 1781, mewn pentref bychan a elwir Trefin, yn Sir Benfro, lle preswylfod ei rieni.

Yr oedd ei dad yn wr hynod dduwiol a dichlynaidd yn ei ymarweddiad. Bu yn bregethwr defnyddiol a derbyniol yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd am driugain mlynedd. Ei fam hefyd ydoedd enwog yn ei chymeriad crefyddol, yn wraig hynod o ran ysbrydolrwydd profiadau, a manylrwydd cydwybodol yn nghy-

  1. Yr oedd i Mr. Henry Richard hefyd ddau fab o'i wraig gyntaf, sef John a William Richard, a mab a merch yn ychwanegol o'i ail wraig, sef Thomas a Mary Richard, y rhai ydynt oll yn fyw yn bresenol, yn Sir Benfro.