cael fy nhaflu oddi amgylch, Sabbothol ac wythnosol. Y Sabbath yw i mi y dydd gwaith caletaf, ac y mae rhai o'r dyddiau wythnosol yn wir Sabbathau i'm henaid lluddiedig i. Weithiau, wrth fyfyrio, braidd na ddymunwn fod genyf ddau enaid mewn un corph; a thrachefn, wrth bregethu, egwyddori, &c., derbyniwn yn llawen ddau gorph i un enaid; ond wedi'r cwbl, nid ydwyf ond gwas anfuddiol' iawn. Nid yw achos fy Meistr yn y byd yn fawr iawn gwell o'm plegid i. O'r fath gywilydd, ac eto y mae hyd yn hyn yn ymatal rhag dileu fy enw oddiar y gofrestr, ac nid ydwyf hyd yma wedi fy ngyru allan o'r fyddin, (drummed out of the regiment.)
Ond yn awr amcanaf ateb rhai o'r pethau sydd yn eich llythyr diweddaf. Yr ydych yn gofyn a gewch yr Occasional Paper am byth; i hyn yr atebaf, Na chewch, oblegid, yn ol hen ddiareb Brydeinig, Er cystal gen' i maban, mae'n well gen' i fy hunan:' nid oes genyf ond efe yn fy meddiant.
I'ch dymuniadau taerion, am fod i ddysgeidiaeth yr Ysgol Sabbothol gyrhaedd o begwn i begwn, yr wyf yn rhoddi fy amen o'r galon. Yr ydych wedi dyrchafu fy nysgwyliadau am Gymdeithasiad Pont-y-pool i raddau uchel iawn, a gobeithio na chaf fy siomi.
Yr wyf yn cyduno yn hollol â chwi fod adroddiad (report) ysgrifenedig o undeb (union) pob sir, i gael eu hymgorphori yn yr Adroddiad Blynyddol Cyffredinol dros Ddeheudir Cymru, yn beth i'w fawr ddymuno; ond mae'n rhaid i ni aros nes gweled rhyw beth tebyg i undeb yn mhob sir, oblegid nid oes gysgod o hyny eto yn un sir yn Neheudir Cymru ond Sir Aberteifi. Da fyddai genyf pe gallwn hebgor amser i roddi i chwi hanes gyflawn o Gyfarfod Bly-