Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynnal yn mhob dosparth ar yr un egwyddorion ac wrth yr un rheolau a chyda chwi.[1]

Penderfynwyd, Bod dwy gymdeithas haner-blynyddawl i gael eu cynnal yn mhob dosparth, sef yw hyny, y naill haner o'r dosparth i gyfarfod un haner blwyddyn, a'r haner arall o'r dosparth i gyfarfod yr haner blwyddyn arall, i gael eu holi yn gyhoeddus; ac felly y bydd yr holl ysgolion, yn mhob dosparth, yn cael un gymanfa yn y flwyddyn.

Penderfynwyd, Bod pob dosparth yn un llais yn dymuno cael cyd-weithrediadu â'u brodyr mewn cyfarfod blynyddawl, i dderbyn i mewn holl gyfrifon y sir, i areithio am achos yr Ysgolion Sabbothawl, ac felly llunio'r holl ysgolion a'r dosparthiadau yn y sir yn un cyfundeb cadarn a hardd.[2]

Penderfynwyd, Bod y saith dosparth cyntaf yn y sir, sef pob dosparth ond Abertawy,[3] yn dymuno cydweithredu â'u brodyr i gael llyfr i bob dosparth, yn ol y cynllun amgauedig yn hwn, a chael nifer o docynau unffurf a'r llyfr gyda phob llyfr.

Nid oes genyf yn bresennol ond cyflwyno'r achos gwerthfawr a phwysig hwn i nodded a llwydd yr hwn sydd a'i enw yn IAH, ac i'ch gofal chwithau, canys ni feddaf ond ychydig obaith y dygir ef yn mlaen gyda

  1. Bernais hyn yn ddigonol tan y penderfyniad hwn, gan y gwyddwn eich bod chwi wedi cymeryd nodiadau manwl o bob peth perthynol i'r cyfarfod deufisol.
  2. Bod holl drefniad y Cyfarfod Blynyddawl hwn yn gyfan-gwbl a hollawl yn nwylaw Cyfarfod Misol y Sir, sef pa le a pha bryd y cedwir ef, pwy fydd i lefaru ynddo, ac ar ba destunau, &c.
  3. Yr achos nad oedd dosparth Abertawy yn ymofyn am lyfr, ydoedd, eu bod hwy wedi myned i'r draul o geisio llyfr taclus a hardd yn barod, ac a atebai'r dyben yn hollawl ond ei linellu e'n drefnus.