nac o ewyllys y cnawd, eithr o Dduw.' Y mae y rhai hyn yn Nghrist Iesu, ac am hyny yn greaduriaid newydd. Maent wedi ymadnewyddu yn ysbryd eu meddwl, a gwisgo y dyn newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. Anian yw hon wedi dyfod oddiwrth Dduw, yn cyffelybu i Dduw, ac yn ymhyfrydu yn Nuw. Nis gall neb ddychwelyd at Dduw, ymhyfrydu ynddo, na'i addoli, heb yr anian hon. Dyma ei had ef, yr hwn sydd yn aros yn y dyn. 3. Cymundeb profiadol â Duw; trwy yr hwn y mae yr enaid yn cael ei nerthu a'i ddyddanu; ei rasau yn cael eu lloni a'u cynnyddu; a'i lygredigaethau yn cael eu darostwng a'u marwhau. Y mae y gymdeithas hon yn un agos, heddychlon, briodol, trwyadl, a chyffredinol. Y mae yma gymundeb â'r Tad yn ei gariad, â'r Mab yn ei swyddau, â'r Ysbryd Glan yn ei ras a'i ddoniau. Dyma grefydd bersonol. O fy anwyl frodyr a chwiorydd, na fyddwch byth dawel hebddi.
II. Dymunaf eich sylw at grefydd deuluol. Y mae hon mewn pwys, angenrheidrwydd, a gwerth, yn nesaf at grefydd bersonol. Edrychwch yn ofalus, fel eglwys, rhag bod yn eich mysg wr, neu wraig, neu deulu, yr hwn y try ei galon oddiwrth yr Arglwydd ei Dduw. Cofiwch fod Abraham yn gorchymyn i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd; Jacob yn gorchymyn i'w deulu fwrw ymaith y gau dduwiau; a phenderfyniad Joshua ydoedd, Myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.' Mae crefydd deuluaidd yn cynnwys addoliad, addysg, a llywodraeth deuluaidd.
1. Addoliad teuluaidd. O mor ddychrynllyd yw y cyhoeddiad hwnw, Tywallt dy lid ar y cenhedloedd, y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant