(fel yr wyf yn gobeithio fy mod inau) i bob braich o gnawd gael ei chadw o'r golwg yn bwrpasol, fel y byddai i Dduw gael y gogoniant yn anghyfranogol iddo ei hun; oblegid pe buasai genych lawer o gyfeillion i'ch cymeradwyo, buasai rhan fawr o'r clod yn fwyaf tebyg yn cael ei briodoli iddynt hwy, a'r Arglwydd yn cael ei gadw o'r golwg; ond yn awr nid oes neb i fod yn gyfranogwyr gydag ef: bydded yr holl ogoniant iddo!
Rhoddodd foddlonrwydd mawr i mi i ganfod fod pwys a mawredd ofnadwy gwaith sanctaidd y weinidogaeth i ryw raddau yn cael ei egluro i'ch meddwl. Pan y byddwyf yn meddwl am y sefyllfa bwysig y mae eich brawd ynddi, yr wyf yn aml yn crynu, oblegid y mae yn orchwyl difrifol i gael aclodau, iechyd, a bywyd ei gyd-greaduriaid yn gyflwynedig i'w ofal. Ond O, y mae hyny yn soddi i ddiddymdra mewn cymhariaeth a chael eu heneidiau, eu hanfarwol eneidiau, wedi eu cyflwyno i'ch gofal chwi. Pa beth yw rhwymo asgwrn drylliedig braich neu glûn, mewn cymhariaeth a rhwymo y galon friwedig? O fy mhlentyn anwyl, nis gall holl athroniaeth (philosophy) Llundain byth eich dysgu yn y gelfyddyd ryfeddol a dirgel hon, ond rhaid i chwi gael eich dysgu gan yr Ysbryd Glan. Mae llawer o ddysgawdwyr yn Israel, a llawer D. D., yn ddyeithriaid hollol i'r ddysgeidiaeth hon. Gallant fod yn athrawon mewn celfyddydau eraill, ond y mae'r gelfyddyd o lefaru gair mewn pryd wrth enaid y diffygiol,' yn hollol allan o'u cyrhaedd. Yr wyf yn erfyn arnoch i fyfyrio llawer ar y bummed bennod o ail Corinthiaid. Y mae y cymhwysderau gofynol i'r weinidogaeth yn cael eu gosod lawr yno gan yr Ysbryd Glan ei hun, sef,