Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chalon lawn yn curo yn gyson rhwng ofn a gobaith. Ac O fel y buasai ei dad penllwyd yn galw i ymarferiad yr holl wroldeb, profiad, a ffydd a feddai, i'r dyben o sirioli ei blentyn cystuddiol; weithiau yn ymdrechu gyda Duw drosto, a'r funud nesaf yn gweinyddu iddo o phiol cysur; ond och, och, nid yw hyn i gyd ond breuddwyd, oblegid y mae dau can' milldir rhyngddynt ag ef, ac nid oedd ganddynt y wybodaeth leiaf am ei afiechyd, a phe buasai, yr oedd yn gwbl allan o'u gallu i roddi iddo y seibiant lleiaf. Ond er hyn i gyd, Pa le y mae y Duw yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?' a pha le y mae Ceidwad Israel, yr hwn nid yw yn huno nac yn hepian?' Yr wyf yn gobeithio iddo fod yn Dduw agos at law, ac nid yn mhell: ben digedig fyddo ei enw sanctaidd am na'ch llwyr adaw odd yn eich cystudd diweddaf, ac yr wyf yn hyderu 'i'w ymgeledd gadw eich ysbryd.' O mor llawen a diolchgar oedd genym ddeall fod y geiriau gwerthfawr hyny yn Heb. xiii. 8 wedi bod yn gynnaliaeth i chwi, oblegid y mae probatum est wedi ei labedu (labelled) ar y cordial hwn yn ein meddygdy ni; ac O fel yr adseiniodd ein calonau i'r ddau bennill Cymraeg a grybwyllwch.

Sancteiddrwydd im' yw'r Oen dinam,
'Nghyfiawnder a'm doethineb,
Fy mhrynedigaeth o bob pla,
A'm Duw i dragywyddoldeb.

Duw ymddangosodd yn y cnawd,
Fe gafwyd brawd yn brynwr;
Ni chollir neb, er gwaeled fo,
A gredo i'r Gwaredwr.'

Fel hyn, fy anwyl Edward, yr wyf yn gobeithio eich bod wedi cael eich dysgu i wybod fod crefydd a