Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Cerdd yn mla'n, nefol dân,
Cymer yma feddiant glân.'

Y mae yn ddrwg genyf nas gallaswn anfon y llin ellau uchod yn gynt, ac yr ydwyf mewn braw, gan mor agos i gymmydogaeth y nefoedd yr oedd ein hen frawd parchedig wrth ysgrifenu ei lythyr, rhag y bydd wedi ei gipio yno cyn y cyrhaeddo hwn ef.

Yr ydym yn taer ddeisyf cael ychydig linellau eto cyn gynted ag y galloch.

Y mae fy anwyl gymhares yn gydunol â mi yn deisyf ein cofio yn y modd mwyaf caredig atoch chwi, ac at eich anwyl Mrs. Howells.

Ydwyf, barchedig ac anwyl Syr, yr eiddoch,

Dros y corph,

Yn rhwymau efengyl Crist,

EBENEZER RICHARD,

Ysgrifenydd y Gymdeithasiad.


AT MR. JOHN MORGANS, LLANDYSIL.

Tregaron, Aust 26, 1830.

FY ANWYL GYFAILL,
Tebygaf eich bod yn dal yn eich cof ddarfod i chwi ddodi yn fy llaw lythyr agored yn Nghymdeithasiad Aberteifi, ar yr hwn nid oedd amser na chyfleusdra i sylwi dim; ond ar ol dychwelyd adref, a chael ychydig hamdden, mi a'i darllenais drosto yn bwyllog a manwl, ac, i'm tyb i, y mae yn cynnwys tri prif-fater go bwysig, yn enwedig i chwi, sef yn I. Eich bwriad i roddi'r ysgol heibio. II. Eich bwriad i briodi. Ac yn III. Eich bwriad i gynnyg eich hunan i waith y weinidogaeth; yr hyn yw y mwyaf pwysig o'r cwbl. Y mae yn ddiammau fod y ddau gyntaf yn sicr o esgor ar