Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr; ond eto yr wyf yn gobeithio nad yw ein pryder yn cyrhaedd i anghrediniaeth, a diffyg hyder yn y Duw hwnw sydd wedi dangos y fath ofal pennodol a nodedig tuag at eich rhieni a chwithau. Deuddeng mlynedd-ar-hugain i'r dydd heddyw y dechreuodd eich tad tlawd â'i yrfa weinidogaethol, ac O'r fath garedigrwydd a ddangoswyd tuag ato, trwy faddeu ei golledion, a chydymddwyn â'i wendidau! Cymeraf fy nghenad yn ngeiriau y Salmydd wrth ei enaid, gan erfyn am iddynt gael eu cymhwyso atoch chwi yn eich amgylchiadau presennol, Paham i'th ddarostyngir, fy enaid, a phaham y terfysgu ynof? Ymddiried yn Nuw: canys eto moliannaf ef, sef iechawdwriaeth fy wyneb a'm Duw.'

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.


Tregaron, Awst 22, 1834.

FY ANWYL HENRY,
Yr ydym yn ddiolchgar iawn i chwi am yr hanes gyflawn a chywir a roddasoch am danoch eich hun yn eich llythyr diweddaf. Wrth ei ddarllen, a'ch gweled yn fy nychymyg yn Ware; yn awr yn y parlwr, maes law yn y pulpid; weithiau yn eich ystafell, a phryd arall yn nhŷ'r Capel; yn awr yn parotoi eich pregethau, yn fuan ar ol hyny yn eu traddodi; weithiau yn eich ystafell yn ymdrechu gyda Duw, ac yn mhen ychydig drachefn yn y deml, yn cynghori, yn gwahodd, ac yn ymresymu â phechaduriaid, ac yn erfyn arnynt dros Grist, Cymmoder chwi â Duw.' Wrth feddwl am y pethau hyn, gallaf ddweud mewn gwirionedd, fel y dywedodd Elizeus gynt wrth Gehazi, ond mewn llawer