Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda y cerbyd yn rheswm cryf? Onid yw byrdra'r amser y gallaf aros yn y wlad ar ol myned i'r draul i'm cyrchu iddi, yn rheswm cryf i aros gartref? Onid yw'r ystyriaeth y bydd cyflawnder o frodyr i'r gwaith yn Llangeitho, a degau na bydd lle iddynt wneud dim, yn rheswm cryf i beidio myned i draul anarferol yn achos un brawd? Onid yw'r ystyriaeth fy mod yn hen ysglodyn sychlyd, heb na phregethau nac ysbryd i'w traddodi pe byddent genyf, yn rheswm cryf a digonol i beri i mi wrthod gadael i'm brodyr fy nghyrchu o bellder anarferol, trwy draul anarferol, a hyny i gyfarfod anarferol, lle o bosibl y gallaf fyned a lle rhyw frawd a fyddai yn fwy buddiol a chymhwys uwch ben y dorf? Ger bron fy Ngwneuthurwr, y mae y pethau hyn yn ymddangos yn rhesymau cryfion yn fy ngolwg i. Ond gan fod yr Arglwydd yn peri i mi beidio ymddiried i'm deall fy hun, a bod Paul wedi gweled gwr o'r fan yn deisyfu arnynt ddyfod trosodd i'w cymhorth hwy, wedi cwbl gredu alw o'r Arglwydd hwynt yno; minau, rhag ofn pechu, a ymdrechaf ddyfod i Langeitho. O na weddiech drosof! Os gofynwch am beth, mi ddywedaf wrthych, Am i mi gael y weledigaeth, yr argyhoeddiad, y cyffyrddiad, yr ymadawiad anwiredd, a'r glanhad oddiwrth bechod, a'r holl ymgeledd a ddesgrifir yn Esaia, chweched bennod. Yna y d'wedwn, Wele fi, anfon fi. O fe fyddai y flwyddyn hon yn flwyddyn ryfedd, nid yn unig ar gorph y Methodistiaid ac ar Langeitho, ond arnaf finau hefyd, pe cawn hyn. O yr ydwyf bron yn meddwl y caf hwy. Mae fy nychymyg yn rhedeg i Dregaron, mi a'ch gwelaf yn darllen fy llythyr, a'm cais dlawd yn dechreu cyffroi tannau brawdgarwch yn eich mynwes, y llygaid parod i wylo yn dechreu llenwi-mi a'ch gwelaf yn