'A chytunwyd arno yn un llais.[1] Nis gallaswn fyned yn mlaen yn mhellach; torodd ein teimladau allan gyda'r fath rym nes cludo y cwbl o'i flaen mewn cenllif o ddagrau oddiwrth eich anwyl fam a'ch chwiorydd bach cariadus, nes oeddwn fy hun yn mron wedi fy nirymu; ac ar ol rhai munudau o ddiolchgarwch dystaw, ond diffuant, dywedodd eich anwyl chwaer Hannah, 'Datta, rhaid i chwi fyned i weddi yn union.' Yna darllenais inau y xlvi. Salm, ac ymostyngais gyda fy nheulu bychan; ac yr wyf yn gobeithio y gallaf ddywedyd yn ddiymffrost, mae amser o adfywiad ydoedd o olwg yr Arglwydd. O beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddaioni i mi? Phiol iechawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf.' Ond nac anghofiwch, fy anwyl Henry, eich bod eto ar y môr, oblegid, er ein bod yn cael yr hyfrydwch o'ch cyfarch yn bresennol fel un sydd wedi eich dwyn yn ddiogel dros un don aruthrol, eto geill fod ugeiniau o rai eraill llawn mor ddychrynllyd a hono o'ch blaen, ond addewid ddiball ein Duw yw, Ni'th roddaf i fynu, ac ni'th lwyr adawaf chwaith,' ac wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.'
Yn awr, fy anwyl Henry, yr ydym yn cydlawenychu â chwi yn y modd gwresocaf a chywiraf ar yr alwad ddedwydd yr ydych wedi ei derbyn, nid oherwydd swm y gyflog, neu'r ganmoliaeth ddynol a gawsoch, ond yn benaf oherwydd y cyfleusdra a rydd hyn i chwi i fod yn ddefnyddiol gydag achos Duw, ac hefyd oherwydd
- ↑ Cyfeiriad at yr hanes a roddasid yn y llythyr, am ba un y crybwylla o ddewisiad ei fab ieuangafi fod yn weinidog ar eglwys gerllaw Llundain.