cywir, didwyll, a diffuant yn eich cofio, eto llygredig, eiddil, ffol, ac analluog i'ch cymhorth; ond pan y cofio Iesu chwi, bydd Brawd sanctaidd, diddrwg, dihalog, a didoledig oddiwrth bechaduriaid, uwch na'r nefoedd, eto yn weddus i ni, yn eich cofio. Pan y byddwyf fi eich cofio, yr ydwyf yn ofidus na fedrwn wybod pa fodd y mae arnoch; ond pan y byddo Iesu yn eich cofio, y mae Efe yn eich gweled, yn gwybod pa dywydd yw hi arnoch, a pha ryw dònau yr ydych yn myned trwyddynt, oblegid, er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel.' 'Pe rhodiwn yn nghanol cyfyngder, ti a'm bywhait, estynit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheulaw a'm hachubai.' Cofiwch, fy anwyl frodyr, mai y ffordd i fod yn nghysgod yr Hollalluog yw trigo yn nirgelwch y Goruchaf; ni all y cywion gael lles, na chysgod, na nodded, na gwres, na magwraeth, na chynnydd, oddiwrth adenydd yr iar, heb iddynt ymgasglu yn agos ati, ymlechu tan gysgod ei phlu; felly nid rhyfedd fod yr Ysgrythyr yn dywedyd, Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech ac a nesaech atat, fel y trigo yn dy gynteddoedd. Gwyn eu byd preswylwyr dy dŷ, yn wastad i'th foliannant.' Pobl agos ato yw pobl yr Arglwydd, eto cofiwn yn nglŷn a hyn, nad oes gyfeillach rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder, na dim cymundeb rhwng goleuni a thywyllwch, na dim cysondeb rhwng Crist a Belial, na rhan i anghredadyn gyda chredadyn, na chydfod rhwng teml Dduw ac eilunod, canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywed Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi. Oherwydd paham, deuwch allan o'u canol hwynt, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan,
Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/194
Gwedd