mhlith yr eglwysi yn un rhan o Gymru. Yr hyn oedd yn gofidio ei feddwl drymaf wrth weled amser ei ddatodiad yn nesau, oedd yr olwg a ganfyddai ar gyflwr moesol y byd; a byddai arferol o ddweud gydag ochenaid drom wrth ei wraig, A raid i fi adael y byd, Mary fach, heb weled unrhyw arwydd o wellhad arno?
Yn nechreu mis Mawrth (1837,) pennodwyd ef a Mr. John Morgan, Aber-y-ffrwd, i ymweled a'r eglwysi mewn dosparth o Sir Aberteifi, yn ol cynllun a fabwysiadwyd gan y Cyfarfod Misol. Cychwynodd oddicartref i Gyfarfod Misol Lledrod, yr hwn a gynnaliwyd ar y 1af a'r 2il o fis Mawrth; a thra yno, canfyddodd amryw o'r cyfeillion fod ei lesgedd wedi cynnyddu yn fawr; ac fel prawf ychwanegol o'i deimladau ef ei hun o'r un peth, crybwyllodd ei benderfyniad diysgog i roddi i fynu ei swydd fel Ysgrifenydd. Oddiyno aeth ef a'i gyfaill yn mlaen i'r manau appwyntiedig, hyd oni ddaethant y dydd Llun canlynol i Dwrgwyn, ac yno pregethodd am y tro olaf byth yn yr un pulpid lle y terfynodd ei gyfaill enwog y Parch. Ebenezer Morris ei weinidogaeth yntau. Ei destun oedd Act. xxiv. 16.
Cysgodd y noswaith hono yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith, Mr. Samuel Morris, lle yr achwynai ei fod yn teimlo llesgedd anarferol. Aeth oddiyno dranoeth i Salem, lle y bu yn cynnal cymdeithas neillduol, gyda golwg ar ddyben ei daith. Dylasai, yn ol ei gyhoeddiad, fyned yn mlaen dydd Mercher i Blaen-annerch, at yr un gorchwyl, ond yr oedd ei natur wedi suddo i'r fath raddau, fel y barnodd y byddai yn fwy doeth iddo ddychwelyd adref, ac yn ol y penderfyniad hwn ymadawodd ef a Mr. Morgan, oddeutu deg o'r gloch boreu dydd Mercher, o Blaenwern, cartref ei ferch, a chyrhaedd-