wedi deffro, ond gwelodd yn fuan wrth sylwi ar ei wyneb fod rhyw gyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle, oblegid yr oedd gwedd ddyeithr arno. Galwodd ar ei mam i ddyfod i fynu yn ddioed, a thra yr oeddynt yn sefyll oddiamgylch ei wely, yn mhen oddeutu chwarter awr, darfyddodd anadlu.
He set as sets the morning star, which goes
Not down behind the darkened west, nor hides
Obscured among the tempests of the sky,
But melts away into the light of heaven.'
Dydd Mawrth canlynol (yn ol ei ddymuniad ei hun) cymerwyd ei gorph yn gyntaf i'r capel, lle y traddodwyd dwy bregeth ar yr achlysur gan y Parchedigion John Jones, Llanbedr, ac Evan Evans, Aber-y- ffrwd, oddiwrth 2 Sam. iii. 38, ac 2 Tim. i. 10; ac yna gosodwyd ef i orwedd yn mynwent Tregaron.
Y mae'n debyg y bydd rhai o'n darllenwyr yn dysgwyl ar ddiwedd yr hanes hon ryw ymgais i osod ger eu bron ychydig ddifyniad yn mhellach o'r priodoliaethau mwyaf nodedig yn nghymeriad Mr. Richard. Hwyrach y barna rhai fod yn anhawdd i ni gyflawni y gorchwyl hwn gyda'r didueddgarwch a'r cywirdeb gofynol, a diau y bydd eu barn i ryw raddau yn uniawn. Y mae cariad yn edrych ar ei wrthddrych trwy gyfrwng tebyg i wydr lliwiog, yr hwn a dafl ei wawr ysblenydd ei hun ar ba beth bynag a ganfyddir trwyddo. Ond eto y mae mantais fawr i gyrhaedd gwybodaeth fanol a gwirioneddol o gymeriad mwyaf tufewnol unrhyw berson gan y rhai sydd wedi bod yn byw mewn cyfrinach agos a mynwesol âg ef, ac wedi cael cyfle i sylwi arno yn yr oriau hyny pan y mae dynion