gelion y bywyd ysbrydol, a'r « Arglwydd Dduw a roddes iddo dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol.
Nid oedd un amser yn amcanu at gael yr enw o fod yn dduwinydd mawr, trwy gyfansoddi rhyw bregethau dyfnion a gorchestol iawn, y rhai a ofynent lafur mawr i'w hamgyffred. Y mae yn amlwg nad oedd hyn yn cyfodi oddiar ddiffyg gallu at y cyfryw orchwyl, oblegid byddai weithiau (ac y mae yn ddiau genym fod ar gof gan rai o'n darllenwyr y cyfryw achlysuron) yn dwyn allan gyfansoddiadau a brofent yn amlwg y medrai ymaflyd â braich cawr yn y pynciau mwyaf dyrys, a thrin mewn dull meistrolaidd ac eglur, ie, dyfnion bethau Duw hefyd. Y mae yn wir nad oedd cyfansoddiad naturiol ei feddwl yn ei ogwyddo i ymdwrio llawer i mewn i ddirgelion athrawiaethol crefydd, oblegid tueddiad greddfol ei feddwl ef oedd dianc o blith yr anhawsderau hyn, trwy gymeryd iddo adenydd dychymyg a serch ysbrydol, ac ehedeg ymaith megis eryr tua'r wybr, lle yr hoffai ymddigrifo yn mhelederau Haul y Cyfiawnder. Ond y mae yn ddiammau ei fod yn ymochel a'r dirgeledigaethau hyn oddiar y grediniaeth wreiddiol oedd yn ei feddwl, nad oedd y cyfryw weinidogaeth yn debyg o fod yn fuddiol i'r gwrandawyr, oherwydd nad oedd gymhwysiadol at raddau gwybodaeth a grym cynneddfau y cyffredinolrwydd o ddynion. Nid mynych y bu un erioed yn fwy parod i anghofio ei glod ei hun, yn ei awyddfryd i gadw mewn golwg ddyben mawr pregethu; a diau y gallasai, gyda golwg ar y pwnc hwn, fabwysiadu geiriau'r Apostol, Yn yr eglwys gwell genyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau