eich ranks. Pan fyddo generals mawr yn syrthio yn y frwydr, y mae yn beryglus iawn os bydd yr is-swyddwyr, rhyw officers bach, yn rhuthro yn mlaen i geisio llanw lle y general; y ffordd oreu yw i bob un gadw ei le ei hun yn y gad; felly chwithau, fy mrodyr, na fydded i neb wthio o'i le, nes y byddo galw arno, ond pob un fyddo yn ymofyn yn hytrach am y lle isaf. Nid rhaid i ni ofni na chawn Dduw gyda ni, oni rwystrwn ni ef: ofni ein hunain a ddylem ni yn fwy na dim. Cofiwn mae yr hyn sydd angen arnom ni yw cael, dau parth o'u hyspryd hwy,—nid eu cotiau, na'u lleisiau, na'u tônau, ond eu symlrwydd, eu gostyngeiddrwydd, a'u zel; dynion plain iawn oeddynt hwy, heb ddim rhyw blygiau a nadau yn perthyn iddynt. Mae eisiau arnom ni gofio sylw ein hanwyl frawd E. Morris; yn ngwyneb fod rhyw rai yn ymadael â'r corph, dywedai, Pe b'ai llawer o honom yn myned i'r clawdd, yma a'r ffos draw, gwna Duw ofalu am ei achos: 'y mae y llywodraeth ar ei ysgwydd ef.'
Yn wyneb yr amgylchiad hwn, mae rhai oedd yn ymddiried mewn braich o gnawd a'u gobaith wedi pallu, ond chwilio am ryw ddyn y byddant hwy eto, ac ymafaelu ynddo, a dweud, Rhaid i chwi ddyfod fynu yn eu lle hwynt. Bydd eraill sydd wedi bod yn derbyn peth oddiwrth Dduw trwy eu gweinidogaeth yn galaru ac yn tristâu yn fawr am danynt, ond mwy o weddio a ddylai fod gan bawb yn y dyddiau hyn dros genadau Duw, y gwragedd a'r merched, yn gystal a'r gwŷr.
A chofiwn, yn ein tristwch, mae nid galaru yr ydym am eu bod wedi syrthio i afael rhyw bechod neu brofedigaeth, O nage, ond un yn dweud wrth ei wraig y diwrnod y bu farw, Mary fach, mae'r brenin yn y