anghelfydd a dirodres uchod am ddim teilwng o'u beirniadaeth ddysgedig hwy. Ond os nad ydyw pleidgarwch cariad wedi dallu ein barn, ni fydd yn anhawdd i'r gwir fardd ganfod ynddynt rai o elfenau mwyaf hanfodol prydyddiaeth, yn enwedig yn Nghân y Cynhauaf.
Byddai Mr. R. yn arfer dweud mewn digrifwch, os oedd ef yn meddu un wreichionen o athrylith barddonol, ei fod yn sicr mae at sen-brydyddiaeth (satire) yr oedd tueddiad ei awen. Ac y mae ar gael yn bresennol yn mhlith eu bapurau un gân o'r natur hyny, mor llym a gerwin a nemawr o ddim a welsom crioed. Ond nis beiddiwn ei chyhoeddi yn awr, am ein bod yn gwybod na fuasai efe ei hun yn foddlon er dim achosi poen nac anesmwythder i feddyliau neb, er ei fod yn medru canfod a chondemnio yr hyn oedd annheilwng a gwarthruddus yn eu cymeriad Ond gallwn roddi yma un neu ddau bennill eraill o'r natur yma fel engraifft i'n darllenwyr.
HANES DAU.
Dau hurtyn disynwyr, disylw, diserch,
Diannel, diaddurn, yw'r diogyn a'i ferch;
Dibarcha diberchen, diberfedd, dibwyll,
Didawr a dideimlad; didlws—nid didwyll."
SEN I'R SAWL A'I HAEDDO.
Y corgi cynddeiriog, celwyddog a chas,
Ni feddi synwyryn, na mymryn o ras;
Eisteddaist, dirmygaist, a cheblaist dy well,
Am hyny fe'th yrir o'th oror ya mhell.