swllt a chwech-cheiniog y dwsin; a chan y bydd llawer yn cael ei gynnwys mewn cwmpas bychan, yr wyf yn gobeithio y bydd yn rhagori ar gynllun y rhifynau blaenorol. Telir sylw neillduol i'r cymdeithasiadau, yr ysgolion sabbothol, ac hanesion crefyddol tramor. Yr wyf newydd dderbyn oddiwrth eich brawd gyfrif cysurus am yr ysgolion, yr hwn wyf yn fwriadu ei gyhoeddi. Os daw unrhyw bethau neillduol i'ch gwybodaeth, y rhai a farnoch yn ddefnyddiol, byddaf yn ddiolchgar i chwi am danynt.
Y mae Grammadeg Cymraeg newydd ei gyhoeddi, copi o ba un a anfonwn i chwi pe gwelwn ryw un yn dyfod i'ch cymmydogaeth. Gwerthir ef am swllt, neu saith swllt a chwech-cheiniog y dwsin.
Yr wyf yn dymuno i chwi gyflwyno fy annerchion mwyaf diffuant i'r Major Bowen, a'i foneddiges, a'i fab. Gobeithiwyf eu bod oll yn iach. Yr wyf yn deisyf fy nghofio yn garedig hefyd at fy holl gyfeillion ereill yn eich tref chwi, a'r gymmydogaeth.
"Yr wyf wedi bod yn garcharor, wedi fy nghlymu gerfydd fy nghoes am y pedwar mis diweddaf. Yr wyf yn awr ar gael fy rhyddhau unwaith eto. Yr wyf yn ei chyfrif yn drugaredd arbenig i mi allu myned yn mlaen à fy ngwaith drwy yr holl amser, er fy mod yn fynych na fedrwn gerdded o'm gwely i'r sofa. Trwy hyn galluogwyd fi o'r diwedd i orphen ysgrifenu y Geiriadur, yr hyn a'm hesmwythaodd o faich trwm. Yr oedd yn orchwyl Ercwlfaidd (Herculean.) Bydd yr ail ran o'r drydedd gyfrol allan yn fuan, ac ni awn yn mlaen gyda'r argraffu mor fuan ag y byddo bosibl. Yr ydym yn gobeithio eich gweled yn ein cymdeithasiad yn Llanfair yn y gwanwyn, neu, o'r hyn bellaf, yn nghymdeithasiad y Bala. Y mae