un dull afreolaidd, a'r eglwys yn byw yn dawel yn nghanol y llygredigaeth; ond gwnaeth ef yr un ymosodiad gorchestol ar y gelyn yno hefyd. Llwyrymroddodd i weinyddu y ddysgyblaeth ar bawb oeddynt wedi ymhalogi â'r peth, a'r canlyniad fu diarddel amryw o honynt cyn ei ymadawiad. Fel hyn, bu yn offerynol i ddystrywio "y niweid a'r anwiredd hwn," oedd wedi gwarthruddo cymaint ar achos Duw yn y rhan hono o'r Dywysogaeth.
Nis gallwn oddef i'r amgylchiad hwn fyned heibio heb alw sylw ein darllenwyr at y dangosiad nodedig a rydd o un o brif briodoliaethau ei gymeriad, sef ei ufudd-dod parod a dibetrus i'r hyn a ystyriai yn ofynion dyledswydd. Tuedd ei dymher naturiol oedd gochelyd gyda'r pryder mwyaf bob dynesiad at ddim tebyg i gythrwfl, ïe, efallai yn wir gellir dywedyd mae rhyw ormodedd o'r petrusder hwn oedd y gwendid parod i'w amgylchu." Ond pan y deuai unwaith yn eglur i'w feddwl fod llais Duw a chydwybod yn galw arno, yn y fan "nid ymgynghorai â chig a gwaed," ond ymroddai, mewn gwrthwynebiad i'w deimladau ei hun, i fyned rhag ei flaen "trwy glod ac annghlod," nes cyrhaedd y nod y cyfeirid ef ato. Dibrisiai bob math o wawd ac anmharch a arllwysid arno, fel ar yr achlysur presennol, ar ba un, er nad oedd ond ieuanc, (tan ddeg-ar-hugain oed,) beiddiodd dros anrhydedd yr achos i wrthsefyll nid yn unig dueddfryd llygredig y wlad yn gyffredinol, ond hefyd gan mwyaf holl rym awdurdod swyddol yr eglwysi, " oblegid efe a ymwrolai fel un yn gweled yr anweledig." Geill y darllenydd farnu yn lled agos beth oedd ei deimladau ef y pryd hwnw, oddiwrth y llythyr canlynol, a anfonodd flynyddau ar ol hyny at weinidog ieuanc oedd anwyl a