Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddylent gael eu diarddel yn ddiau. Byddwch bybyr, gwrol, a glew dros achos ein Duw; nac ymollyngwch er dim; cofiwch eiriau Paul, Gal. ii. 5, "Fel yr aroso gwirionedd yr efengyl gyda chwi." Cofiwch siampl Phineas, yr hwn "a iawnfarnodd (er ei fod yn ieuanc), a'r pla a attaliwyd." Llanwer eich enaid â zel ac awyddfryd sanctaidd dros enw'r Arglwydd, a byddwch ffyddlon y waith hon; chwi gewch yr holl gorph i'ch cefnogi, chwi gewch yr holl Feibl i'ch amddiffyn, chwi gewch yr holl Drindod i'ch harddel, chwi gewch yr holl saint a'r angylion o'ch tu, a neb i'ch gwrthwynebu a'ch gwaradwyddo ond y diafol a'i bleidwyr. Dywedaf wrthych yn awr, yn ngeiriau Mordecai wrth Esther, "Oherwydd os tewi a son a wnai di y pryd hyn, esmwythder ac ymwared a gyfyd i'r Iuddewon (i'r achos) o le arall; a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser a hwn Ꭹ daethost ti i'r frenhiniaeth?" Ni feddaf amser i ymhelaethu, er y byddai hyny yn hawdd iawn i mi wneud. Cofiwch yn garedig fy ngwraig a minau at eich anwyl gymhares, ac at eich anrhydeddus dad, a mam-yn-nghyfraith.

Ydwyf, frawd anwyl,

Yr eiddoch yn yr Arglwydd Iesu,

EBENEZER RICHARD.