Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ebenezer ni. Y pethau a drinid yn sathredig, efe a osodai bob aelod yn ei le, ac a ddarllenai y sylwadau yn y Gymdeithasiad nesaf, nes y byddai pawb wedi cael cyflawn daliad am eu trafferth i deithio i'r lle. Hyderaf y ceir y blwch, a'i osod yn yr argraff-wasg, nes y gwasgerir ei ber-aroglau dros holl derfynau yr iaith Gymraeg.[1]

Yn y blynyddau hyn, digwyddodd amgylchiad, yr hwn a ddengys mewn modd neillduol ddianwadalwch cydwybodol ei egwyddorion crefyddol. Yr oedd John Jones, Ysw., Derry Ormond, yn agos i Lanbedr, yn berthynas i'w wraig; ac ar ddyfodiad Mr. Richard i Dregaron, yr oedd y gwr boneddig hwn wedi cymeryd hoffder mawr ynddo. Yr oedd y cythrwfl a gyfododd mewn perthynas i'r ymneilltuaeth yn mhlith Ꭹ Trefnyddion Calfinaidd, yn parhau o hyd i gyffroi meddyliau gweinidogion yr Eglwys Sefydledig. Barnent yn uniawn fod y mesur hwnw wedi achosi ymwahaniad trwyadl rhyngddynt hwy a'r corph rhag-grybwylledig, a hyn oedd beth yr oeddynt yn dymuno yn awyddus ei ochelyd; am hyny, arferent bob moddion i ennill yr ymneillduwyr hyn yn ol. I'r dyben hwn, aeth un o brif offeiriaid yr Eglwys yn Sir Aberteifi at y boneddwr uchod, i ddeisyf arno ef i ymdrechu cael cydsyniad Mr. Richard i dderbyn urddiad esgobawl. Mewn anwybodaeth o wir gymeriad y gwr oedd ganddynt mewn llaw, ymrwymodd Mr. Jones yn hyderus i lwyddo yn yr amcan hwn. Anfonodd am dano yn uniongyrchol i'r Ddery, heb amlygu ychwaneg o'i fwriad, na'i fod yn dymuno ei weled yn ddioed. Ufuddhaodd yntau y gwahoddiad yn fuan; ac wedi ei roesawi yn garedig, dywedodd Mr. Jones ei fod ef a'r

  1. Y Parch. William Morris, Cilgerran.