Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Grant, Sir Robert Peel, Sir Samuel Romilly, Sir James Macintosh, Mr. Marryatt, Mr. Brown, Mr. Smith, General Thornton, ac ereill. Arosais nes yr ydoedd wedi un-ar-ddeg o'r nos, yna dychwelais mewn cerbyd adref. ***** 24. . . . . Eisteddais yn y prydnawn i gael tynu fy llun; meddyliais am eiriau'r duwiol Hervey ar yr un achos, mae cysgod o gysgod oedd. . . . Yn yr hwyr, cynnygiais lefaru ychydig oddiwrth Col. iii. 11, sef mae Crist yw yr oll yn ein iachawdwriaeth ni. Teimlais raddau mawr o ryddid yn y gwaith. Bu fy meddwl yn dra hyfryd y tro presennol. Teimlais ei bod mor hawdd pregethu ag anadlu, pan y byddai'r Arglwydd yn gwenu. ***** Mai 1. Aethum y boreu i wrando Dr. Adam Clarke yn pregethu pregeth genhadol. Ei destun oedd, "Arglwydd y Lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd," &c. Dywedodd lawer o bethau da iawn. Ei ddull yn weddus, a'i alluoedd fel pregethwr oedd fawr. Wedi hyny i Freemason's Hall i gyfarfod yn achos y National School. Yma yr oedd y Dug o York, ac yn nghylch pymtheg o esgobion, heblaw arglwyddi ereill. Deallais i Archesgob Canterbury a York, Esgob Llundain, Arglwydd Harrowby, Sir T. Ackland, Wm. Wilberforce, Ysw., Arglwydd Kenyon, Sir Robert Peel, a rhai ereill, lefaru. Daethum adref yn y prydnawn i ymbarotoi erbyn y gwaith cyhoedd. Cynnygiais lefaru ychydig ar gnawdoliaeth Crist, a theimlais fod y son am dano yn adnewyddol felus: bu yn dda genyf gael yr odfa: llawer yn nghyd.