Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN. VIII.

Hanes ffurfiad Cyfansoddiad a Chyffes Ffydd y Trefnyddion Calfinaidd —Llythyr oddiwrth Mr. R. at gymdeithasiad y Bala—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. Ebenezer Morris—Llythyr oddiwrtho ef at y Parch. H. Howells, Trehil.

Yn y flwyddyn 1823, gwelwyd yn angenrheidiol, fel yr oedd corph y Trefnyddion Calfinaidd yn cynnyddu mewn maintioli, ac amrywiaeth gweithrediadau, i ddefnyddio moddion cyfaddas gyda golwg i'w ddwyn i ffurf fwy rheolaidd a phendant, fel cyfansoddiad crefyddol. Ac er cyflawni hyn yn effeithiol, gwelwyd ar y cychwyniad cyntaf fod yn anhebgorol, fel sylfaen briodol i'r cyfryw gyfansoddiad, i barotoi mynegiad eglur o brif egwyddorion eu ffydd. Ni pherthyn i ni yn bresennol i ddadleu y pwnc dyrys pa mor bell y mae cyffesau ffurfiol o ffydd yn briodol, ac yn effeithiol yn y cyffredin; ond nid ydyw yn ymddangos i ni pa fodd y buasai yn bosibl i gorph o bobl wedi mabwysiadu y cyfryw ffurf-lywodraeth eglwysig ag eiddo'r Trefnyddion Calfinaidd, i barhau yn hir mewn cysur a chynghanedd heb ryw fesur tebyg i hyn. Gan nad oes, yn ol eu cyfansoddiad hwy, gan bob eglwys awdurdod ddeddfol ynddi ei hun i benderfynu pa fath athrawiaeth a bregethir iddynt gan eu gweinidogion, oni buasai sefydlu rhyw brofiedydd (standard) cyffredinol, ni feddiannasid un diogelwch rhag dygiad i mewn athrawiaethau amryw a dyeithr," ac fel hyn buasai y corph yn debyg i ryw offeryn cerdd mawr, a'i wahanol