yn araf ac ystyriol, penderfynwyd yn un llais arnynt gydag ychydig dalfyriadau ac ychwanegiadau. Yna darllenodd y brawd J. Humphreys yr hyn a ysgrifenasai o hanes dechreuad a chodiad corph y Trefnyddion Calfinaidd, a chytunwyd ar hwn hefyd gydag ychydig dalfyriadau ac ychwanegiadau.
Dechreuwyd yn nesaf ystyried y Gyffes Ffydd, a darllenwyd yr un o'r Gogledd gan y brawd John Elias, a yr un o'r Deheubarth gan Ebenezer Richard; ac ystyriwyd pob pwnc ac erthygl o honi gyda'r pwys, yr arafwch, a'r manyldra mwyaf; ac wrth fyned yn mlaen, dewiswyd, cyfnewidiwyd, ychwanegwyd, talfyrwyd, a chymysgwyd fel y gwelid yn fwyaf addas ac angenrheidiol, nes myned trwyddynt oll bob yn un ac un, a phenderfynu ar bob un o honynt yn un llais.
Yna penderfynwyd fod yr oll i gael ei ddarllen ger bron y corph yn nghyd, yn eu cymdeithas, am 2, y 13eg, ac am 8, y 14eg, a bod Ebenezer Richard i ddarllen y Rheolau a Chyfansoddiad y corph; yna bod y Gyffes Ffydd i gael ei darllen, y rhan o'r Gogledd gan y brawd John Elias, a'r rhan o'r Deheubarth gan Ebenezer Richard. Ac yn ol y penderfyniad uchod y gwnaed nes myned trwy'r cwbl; a chydunwyd gan yr holl gorph yn unllais, gyda'r cyd-gordiad mwyaf hyfryd, ar y cwbl oll, heb gymaint ag un llais croes nac un gwrthddadl.
Penderfynwyd gan yr eisteddfod i yr brawd J. Humphreys barotoi y rheolau a'r hanes i'r argraffwasg, ac i yr brawd H. Gwalchmay barotoi cyfansawdd y corph a'r Gyffes Ffydd.
Penderfynwyd, fod y nifer a fernid yn eisiau ar Wynedd i gael eu hargraffu yn y Bala, a'r nifer a