na'ch gwraig ychwaith, na chyfeillion y society hefyd; ond yr oeddwn yn golygu tynu adref erbyn y Sabbath, ac am gael golwg ar y gwaith newydd yn Llangeitho. Ond 'rwyf fi wedi ffailu a'r cwbl—'rwyf wedi fy nal â'r hen anhwyl yn fy ngenau, trwy wres a phoethder, ac amryw bethau ereill, fel yr wyf yn meddwl yn gydwybodol nas gallaswn ddod i'r Cyfarfod Misol, a myned yr ail wythnos i'r Association, ac oddiyno i Forganwg. O'r ddau, 'roedd yn well genyf golli'r society fisol na cholli'r Association. Ond yr wyf yn gobeithio nas gwelaf yr amser y byddaf yn ddifater am Gyfarfod Misol y Sir. Nid yw ond ofer i mi geisio gyru dynion i gredu fy amgylchiadau i o ran fy natur, ac yr wyf yn teimlo fy hun yn fwy tawel i ddynion dynu'r casgliadau y fynont o bethau; ond 'rwyf yn arfer mwy o hyfder arnoch chwi, fel un o'r brodyr anwylaf yn y sir i adrodd fy helynt.
Nid wyf fi yn gallu y peth a ellais, er amcanu, ac yn ffindio fod pob llafur gorchestol yn fy nhaflu yn anghysurus. Eto dymunwn gael rhwyfo gronyn tra b'wyf gyda'r gwaith goreu. Dymunaf eich gweddiau drosof yn hyn. Mae'n gysurus genyf glywed eich bod chwi yn gallu gweithio'n galed; 'rwyf yn rhydd yn dymuno eich llwyddiant, a'r holl frodyr sanctaidd.
Gobeithiaf eich gweled yn Llanymddyfri.
Cofiwch fi at eich caredig wraig, a d'wedwch wrthi fod St. Paul yn rho'i hyny yn un nod ar gariad Cariad ni feddwl ddrwg.'
Mae fy ngwraig yn cofio atoch eich deuoedd yn garedig.
Eich gwael gyfaill,
EBENEZER MORRIS.
- Blaen-y-Wern,
- Meh. 26, 1824.
- Blaen-y-Wern,