Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae yr enw yn aros hyd y dydd hwn. Yn y rhai'n y mae cadeiriau crefydd yn nglyn â'r Eglwys Sefydledig.

Ond nid ydyw y gadair yn gyfyngedig i Eglwys Loegr. Y mae gan grefydd, yn rhengau yr Anghydffurfwyr, ei chadeiriau lawer. Y mae anrhydedd ac awdurdod y Cyfundebau Ymneillduol yn ymgrynhoi o ddeutu yr arwyddlun hwn. Dyna gadair yr Undeb gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr; cadair y Conference gan y Wesleyaid; cadair y Gymanfa gan y Presbyteriaid a'r Methodistiaid. Teimlir dyddordeb nid bychan yn yr etholiadau hyn, ac y mae yr anerchiad o'r gadair yn cael edrych arno fel mynegiad o feddwl aeddfed y cyfundeb y bo yn perthyn iddo ar bynciau duwinyddol a chymdeithasol. Ond er mai yr uchod ydyw prif— gadeiriau crefydd, yn y Cyfundebau Ymneillduol, y mae yn weddus crybwyll am gadeiriau eraill sydd yn meddu cryn ddylanwad a swyn.