Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hi edy lwybyr llaethog
Lle bu'r diferion gwlith:
Gall drin y llaeth a'r 'menyn,
Gall hefyd drin y byd;
Mae gwaddol yn ei dwylo,
Ac iechyd yn ei phryd.

Llawenydd bro yw Llio,
Ac erys gwrid y wawr
Ar ddwyfoch merch yr Hafod
Pan elo'r haul i lawr.