Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"O WYNFYD SERCH, O DDOLUR SERCH."

(Atgof am fy chwaer.)

I


Ar fore hirfelys
I'm hanuwyl a mi,
Cofiaf di'n dyfod
O'th dref ger y lli:
Dyfod ar adain
I'th gyntaf oed
A rhywun na welsit
Mo' i wyneb erioed.

Hoffit ei lygaid,
A rhosliw ei rudd,
A charu y buoch
Eich dau trwy y dydd:
Am dano y sonnit
O hyd ac o hyd,
Fel pe na bai nai
Gan neb arall o'r byd.
A phob tro y gelwit, a thi yn iach,
Ni flinit gusanu 'i ddwy wefus fach.

II


Ar fore o Fai,
Ond bore heb wawr,
Cofiaf di 'n dyfod
O'r ddinas fawr: