Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHWNG DWY FFAIR.

Ar fore ffair yr haf,
Mi welais Olwen glaf
Tan frig yr ysgaw wrth y ty;
Ond nid fy Olwen fel y bu,
A'i dawns yn llonni'r coed.

Ym mhelydr mwynaf Mai,
Ei llaw oedd fel y clai;
Ac unlliw oedd ei dwyfoch wen
A phlu'r golomen uwch ei phen—
Yn hen yn ugain oed!

Hi syllai ar y dail
A'r heulwen, bob yn ail,
A gwyddai ddyfod tecach hin;
Hi'n unig oedd yn ddalen grin
Tan fwa gwyrdd y coed.

Fe ganai'r gog ar frig
Glas onnen yn y wig
Fod mis y tes yn croesi'r lli;
Ond gwrando'n drist wnai f'annwyl i
A dweud mai hir pob oed.

Mynd heibio ŵyl y Grog,
A mud oedd cân y gog;
Ac Olwen hithau 'n fud gerllaw,
A'i chalon fach mor oer â'i llaw,
Mewn erw dan y coed.