Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BELGIUM.

Gwae di pan ruthrodd y balch i'th dir,
O'i ffau yn y Fforest Ddu;
Gwae dy rianedd, a gwae dy hen,
A gwae dy rai bach yn y bru!

Cyrchodd dy ffin yn eofndra'i nwyd,
Ar flaen ei ryferthwy gwŷr;
Cedyrn o nerth yn gwneuthur ei air
Ag eirf a chalonnau dur.

Croesodd yn ehud yng ngwyll y nos,
Heb ofni na Duw na dyn;
Pwy oedd i'w lestair mewn bro heb lu,
A'i cheidwaid mewn hedd a hun?

Ond gwybu'r cryf fod y gwan yn ddewr,
A gwybu cyn clais y dydd
Mai Annibyniaeth yw braint pob bro,
Mai trysor yw bywyd rhydd.

O gwmwd i gwmwd, o gaer i gaer,
Yr utgorn a roddes lef;
Ac wele'r fechan a aeth yn fil,
A'r wael wnaed yn genedl gref.

Ni tharfwyd calon y gwlatgar pur
Gan dwrf y magnelau mawr:
Safodd yng nghanol ei randir hoff—
Gŵyr Duw, a'r ysgarlad lawr!

Famwlad y dewr! nid â'n angof byth
Ogoniant dy lewder drud:
Mae d'ing yn draddodiad o fôr hyd fôr,
A'th enw yn falchter byd.

1914.